Ein cynhyrchiadau

Cael y wybodaeth diweddaraf am ein sioeau sydd am ddod. Ar ol blwyddyn llwyddianus, Rydym yn dod a’r sioe I 13 wahanol lleoliadau o dros Gymru. Ni’n mynd Cernyw! Ymunwch a ni wrth I ni gychwyn ar y daith a wnaeth Cadog ei hunan.

Cadoc And The Drowned Boys (2019)

Drama wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd a’r cyfarwyddwr arobryn Vic Mills yw Cadoc and the Drowned Boys. Ysbridolwyd y ddrama gan y barddoniaeth â ysgrifennwyd gan frawd Vic Mills, Kevin Mills, yn dilyn ei ymchwil helaeth i mewn i fywyd yr Abad o’r 5ed ganrhif.

Mae’r darn cyffrous newydd o theatr yma yn ailadrodd yr hen chwedl o ddau dyn ifanc â boddwyd yn y môr rhwng Ynys y Bari ac Ynys Echni, drwy lygaid tri myfyriwr drama sydd wedi eu gosod gyda’r dasg o droi hen chwedl i mewn i ddarn o theatr gyfoes. Wrth i’w personoliaethau dechrau uno gyda chymeriadau’r ddrama, gofynnwyd cwestiynau o ffydd, anoddefgarwch, moesoldeb a hunaniaeth.

Chwaraewyd y cymeriadau gan gwmni o dri actor proffesiynol – Matthew Curran, Jemima Nicholas a Gareth Price-Stephens wrth iddynt ddadorchuddio chwedl fwy tywyll nag y dychmygwyd. Chwedl o gam-drin, trais yn erbyn menywod ac obsesiwn.

Wrth esbonio’r resymau dros gyd-ysgrifennu’r ddrama, dwedodd Kevin Mills: “Mae enwau llefydd wedi fy niddori ers fy mhlentyndod, ac ychydig o flynyddoedd yn ôl dechreuais i sylweddoli bod gyda De Ddwyrain Cymru llawer o eglwysi wedi’u cysegru i Gadog/ Catwg, yn ogystâl â sawl pentref wedi’u henwi ar ei ôl.

Roedd rhaid bod ei ddylanwad ar ffurfio Cymru ôl-Rhufeinig yn arwyddocaol iawn gan fod olion ohono wedi goroesi i’r presenol, ac wrth i mi ddechrau ymchwilio i mewn i’r pwnc, darganfyddais bod y straeon amdano yn gymysg gyfoethog o fytholeg Celtaidd baganaidd – diddordeb hirsefydlog gen i- a thraddodiadau Cristnogol.

Ychwanegodd cyfarwyddwr y ddrama, Vic Mills: “Lleoliadau theatraidd iawn yw eglwysi a mae beth sydd yn mynd ymlaen tu mewn iddynt yn theatraidd, felly maent yn benthyg eu hun yn dda iawn i ddrama. Mae hi wedi bod yn sialens i geisio addasu ein gwaith fel ei bod yn gweithio mewn gwahanol lleoliadau berfformio, gan fod rhai ohonynt yn fach iawn, ond rydym ni’n gyffrous iawn i weld ymateb y gynulleidfa.”

%d bloggers like this: